1. Cynnydd cyllid Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru (ac eraill) yn sôn yn aml am y toriadau mewn cyllid a gaiff y Llywodraeth o Lundain.
Yn ôl dogfen Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2016-17, Cymru Decach, Cymru Well – Buddsoddi at y Dyfodol, dyw hyn ddim yn wir. Bydd cynnydd o 4% yn y gyllideb rhwng 2015-6 a 2019-20.
Pe bai cyllid i sefydliadau’n cael ei gadw i’r un swm ag eleni, byddai colled bosibl o ran chwyddiant. Mae’r Llywodraeth yn honni bod chwyddiant yn 3.6%. Yn ôl yr Office for National Statistics, mae chwyddiant yn ystod 2015 wedi amrywio o bwynt uchaf o 0.5% ym mis Ionawr, i -0.1% yn ystod tri mis, ac erbyn diwedd y flwyddyn mae’n 0.1%. Mae Trading Economics yn rhagweld bod chwyddiant yn codi i 2.1% erbyn 2020.
Mae’r ffigurau hyn yn rhoi gwedd wahanol i doriadau’r Llywodraeth. Wrth dorri arian i feysydd sy’n ymwneud â’r Gymraeg, yr hyn sydd wedi digwydd yw bod y Llywodraeth yn rhoi blaenoriaethau i feysydd eraill, ar draul y Gymraeg. Dyw torri arian y Gymraeg ddim yn rheidrwydd gan fod cyllid y Llywodraeth yn cynyddu. Mae’n dilyn felly fod y Gymraeg yn llai o flaenoriaeth i’r Llywodraeth nag y bu.
2. Toriadau a chwyddiant. Mae’n wir, fodd bynnag, y bydd unrhyw doriadau mewn cyllid i’r Gymraeg yn cael eu cynyddu yn sgil chwyddiant. Os oes cwtogi o 6.9% yn 2016-17, bydd hyn yn cynyddu i ryw 10% erbyn 2019-2010, neu i ragor na hynny os bydd chwyddiant o 3.6% fel y rhagwelir gan y Llywodraeth.
3. Polisi iaith y Llywodraeth a’r toriadau. Mae gan Lywodraeth Cymru sawl dogfen bolisi sy’n nodi bod y Llywodraeth am weld y Gymraeg yn ffynnu. Mae’r Llywodraeth wedi derbyn nod cyffredinol o weld gwlad ddwyieithog. Mae Iaith Fyw: iaith byw, Strategaeth y Gymraeg 2012-2017 yn nodi mai nod ‘Llywodraeth Cymru yw manteisio ar y consensws sy’n bodoli a’i datblygu, gan dderbyn mwy o gyfrifoldeb am hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg.
Mae’r toriadau presennol yn torri ar draws y polisi hwn.
4. Toriadau i’r Gymraeg. Cafwyd toriadau sylweddol i sefydliadau sy’n gwasanaethu’r Gymraeg yn ystod 2015 ac mae rhagor ar y gweill yn awr. Mae’r meysydd yma wedi eu torri neu ar fin cael eu torri:
· S4C
· Cymraeg i Oedolion
· Llyfrau Cymraeg
· Cwmnïau perfformio
Mae’r toriadau hyn, o’u cymryd gyda’i gilydd, yn datod llawer ar y we sy’n cadw’r Gymraeg yn iaith lewyrchus a byw.
Mae’r toriadau i gyhoeddi yn llawer mwy na’r toriadau i’r celfyddydau’n gyffredinol. Mae’r cwtogi o 10% yn mynd i gael effaith ar y gadwyn economaidd sy’n cynnwys siopau, llyfrgelloedd, dylunwyr, awduron a gweisg, gan effeithio ar swyddi parhaol a swyddi llawrydd. Mae hyn oll yn niweidiol i rwydwaith economaidd y byd Cymraeg.
Mae’r un peth yn wir am y toriadau i S4C. Bydd cwmnïau yn y fro Gymraeg yn debygol o orfod diswyddo gweithwyr yn sgil lleihad yr arian i S4C.
5. Diflaniad neu gwtogi darpariaethau i’r Gymraeg. Yr un pryd, gwelwyd sawl darpariaeth Gymraeg yn cael eu torri, neu gwelwyd nad yw’r Gymraeg wedi cael lle teilwng mewn darpariaethau a ddylai fod o leiaf yn ddwyieithog. Mae’r rhain yn cynnwys:
· Cychwyn Cadarn
· Rhaglenni hyrwyddo’r Gymraeg ymysg rhieni
· Rhaglen hyrwyddo addysg Gymraeg
· Arafwch twf addysg Gymraeg, y mae ei darpariaeth yn dal ymhell y tu ôl i’r galw
O gymryd y diffygion hyn a’r toriadau ynghyd, mae gwendidau mawr yn y modd y mae’r Llywodraeth yn trin y Gymraeg.
6. Yr angen am raglen gynhwysfawr. Ar adeg a welir gan genedlaethau’r dyfodol fel un a fydd wedi sicrhau neu esgeuluso dyfodol y Gymraeg a’i chymunedau, mae’n anodd deall sut mae’r Llywodraeth yn fodlon torri’r cyllid sydd ar gael i ddatblygu gweithgareddau a diwylliant Cymraeg, i hybu siaradwyr newydd, ac i’w datblygu’n iaith gymunedol. Yn awr y mae angen rhoi polisi cadarnhaol y Llywodraeth ar waith, a fydd dim modd gwneud hyn heb gefnogaeth ariannol deilwng.
Mae profiad gwahanol wledydd, sydd â sefyllfa ieithyddol debyg i’r Gymraeg, wedi nodi bod angen buddsoddi sylweddol yn y meysydd canlynol:
· Addysg yn yr iaith
· Dysgu’r iaith i oedolion
· Cefnogi’r Gymraeg yn y cartref
· Hyrwyddo’r Gymraeg yn y gymuned
· Hyrwyddo diwylliant poblogaidd ymysg ieuenctid
· Cefnogi cyhoeddi, llenyddiaeth a’r celfyddydau yn yr iaith
· Cefnogi darlledu yn yr iaith
· Hyrwyddo’r iaith ym myd gweinyddiaeth a busnes
7. Sicrhau cyllid digonol. Mae gan y Llywodraeth bolisïau cyffredinol sy’n gefnogol i’r Gymraeg. Y cam angenrheidiol yn awr yw bod y Llywodraeth yn nodi pwyntiau gweithredu ar draws y meysydd a nodwyd uchod a fydd arwain at wireddu’r polisïau hyn. Dylai’r cyllid a roddir i’r Gymraeg fod yn unol â’r hyn sy’n angenrheidiol i gyrraedd y nodau.
Mae hyn yn fater o gynllunio tymor canolig a hir. Yn sgil hyn mae angen i’r cyllid gael ei bennu mewn modd a fydd yn caniatáu cyrraedd y nodau.
Rydym yn galw felly ar y Llywodraeth i ddileu’r toriadau i’r Gymraeg fel cam cyntaf i gyflawni amcanion ei gwahanol strategaethau a’i dyletswyddau cyfreithiol. Yn ail gam mae angen adolygiad cyffredinol o’r gwariant ar y Gymraeg gyda gweledigaeth ar sut mae sicrhau bod y Gymraeg yn cael cyfle i gryfhau ac ehangu.